Psalms 78

Duw a'i bobl

 Mascîl gan Asaff.

1Gwrandwch arna i'n eich dysgu, fy mhobl!
Trowch i wrando ar beth dw i'n ddweud.
2Dw i'n mynd i adrodd straeon,
a dweud am bethau o'r gorffennol sy'n ddirgelwch;
3pethau glywson ni, a'u dysgu
am fod ein hynafiaid wedi adrodd y stori.
4A byddwn ni'n eu rhannu gyda'n plant,
ac yn dweud wrth y genhedlaeth nesa.
Dweud fod yr Arglwydd yn haeddu ei foli!
Son am ei nerth a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.
5Rhoddodd ei reolau i bobl Jacob,
a sefydlu ei gyfraith yn Israel.
Gorchmynnodd i'n hynafiaid
eu dysgu i'w plant,
6er mwyn i'r genhedlaeth nesaf wybod
sef y plant sydd heb eu geni eto –
iddyn nhw, yn eu tro, ddysgu eu plant.
7Iddyn nhw ddysgu trystio Duw
a peidio anghofio'r pethau mawr mae'n eu gwneud.
Iddyn nhw fod yn ufudd i'w orchmynion,
8yn lle bod fel eu hynafiaid
yn tynnu'n groes ac yn ystyfnig;
cenhedlaeth oedd yn anghyson,
ac yn anffyddlon i Dduw.
9Fel dynion Effraim, bwasaethwyr gwych,
yn troi cefn yng nghanol y frwydr.
10Wnaethon nhw ddim cadw eu hymrwymiad i Dduw,
na gwrando ar ei ddysgeidiaeth.
11Roedden nhw wedi anghofio'r cwbl wnaeth e,
a'r pethau rhyfeddol oedd wedi ei ddangos iddyn nhw.
12Gwnaeth bethau rhyfeddol o flaen eu hynafiaid
yn yr Aifft, ar wastatir Soan.
78:12 Soan Tref ar ochr ddwyreiniol delta'r Afon Nil.

13Holltodd y môr a'u harwain nhw trwyddo;
a gwneud i'r dŵr sefyll i fyny fel wal.
14Eu harwain gyda chwmwl yn ystod y dydd,
ac yna tân disglair drwy'r nos.
15Holltodd greigiau yn yr anialwch,
a rhoi digonedd o ddŵr iddyn nhw i'w yfed.
16Nentydd yn arllwys o'r graig;
dŵr yn llifo fel afonydd!
17Ond roedden nhw'n dal i bechu yn ei erbyn,
a herio'r Duw Goruchaf yn yr anialwch.
18Roedden nhw'n fwriadol yn rhoi Duw ar brawf
trwy hawlio'r bwyd roedden nhw'n crefu amdano.
19Roedden nhw'n sarhau Duw trwy ofyn,
“Ydy'r gallu gan Dduw i wneud hyn?
All e baratoi gwledd i ni yn yr anialwch?
20Mae'n wir ei fod wedi taro'r graig,
a bod dŵr wedi pistyllio allan
a llifo fel afonydd.
Ond ydy e'n gallu rhoi bwyd i ni hefyd?
Ydy e'n gallu rhoi cig i'w bobl?”
21Roedd yr Arglwydd yn gynddeiriog pan glywodd hyn.
Roedd fel tân yn llosgi yn erbyn pobl Jacob.
Roedd wedi gwylltio'n lân gydag Israel,
22am eu bod nhw heb drystio Duw,
a chredu ei fod yn gallu achub.
23Ond rhoddodd orchymyn i'r awyr uwch eu pennau,
ac agorodd ddrysau'r nefoedd.
24Glawiodd fanna iddyn nhw i'w fwyta;
rhoddodd ŷd o'r nefoedd iddyn nhw!
25Cafodd y bobl fwyta bara'r angylion!
Roedd digonedd o fwyd i bawb.
26Yna gwnaeth i wynt y dwyrain chwythu'n yr awyr,
ac arweiniodd wynt y de drwy ei nerth.
27Roedd hi'n glawio cig fel llwch,
adar yn hedfan – cymaint â'r tywod ar lan y môr!
28Gwnaeth iddyn nhw ddisgyn yng nghanol y gwersyll,
o gwmpas y babell lle roedd e'i hun yn aros.
29Felly cawson nhw fwy na digon i'w fwyta;
rhoddodd iddyn nhw'r bwyd roedden nhw'n crefu amdano.
30Ond cyn iddyn nhw orffen bwyta,
pan oedd y bwyd yn dal yn eu cegau,
31dyma Duw yn dangos mor ddig oedd e!
Lladdodd y rhai cryfaf ohonyn nhw,
a tharo i lawr rai ifanc Israel.
32Ond hyd yn oed wedyn roedden nhw'n dal i bechu!
Doedden nhw ddim yn credu yn ei allu rhyfeddol.
33Yn sydyn roedd Duw wedi dod a'u dyddiau i ben;
daeth y diwedd mewn trychineb annisgwyl.
34Pan oedd Duw yn eu taro, dyma nhw'n ei geisio;
roedden nhw'n troi'n ôl ato a hiraethu amdano.
35Dyma nhw'n cofio mai Duw oedd eu Craig
ac mai'r Duw Goruchaf oedd wedi eu rhyddhau nhw.
36Ond doedd eu geiriau'n ddim byd ond rhagrith;
roedden nhw'n dweud celwydd.
37Doedden nhw ddim wir o ddifrif;
nac yn ffyddlon i'w hymrwymiad.
38Ac eto, mae Duw mor drugarog!
Roedd yn maddau iddyn nhw am fod mor wamal;
wnaeth e ddim eu dinistrio nhw.
Roedd yn ffrwyno ei deimladau dro ar ôl tro,
yn lle arllwys ei ddicter ffyrnig arnyn nhw.
39Roedd yn cofio mai pobl feidrol oedden nhw;
chwa o wynt yn pasio heibio heb ddod yn ôl.
40Roedden nhw wedi gwrthryfela mor aml yn yr anialwch,
a peri gofid iddo yn y tir diffaith.
41Rhoi Duw ar brawf dro ar ôl tro,
a digio Un Sanctaidd Israel.
42Anghofio beth wnaeth e
pan ollyngodd nhw'n rhydd o afael y gelyn.
43Roedd wedi dangos iddyn nhw yn yr Aifft,
a gwneud pethau rhyfeddol ar wastatir Soan:
78:43 Soan gw. y nodyn yn 78:12.

44Trodd yr afonydd yn waed,
fel eu bod nhw'n methu yfed y dŵr.
45Anfonodd haid o bryfed i'w pigo
a llyffaint i ddifetha'r wlad.
46Tarodd eu cnydau â phla o lindys,
ffrwyth y tir â phla o locustiaid.
47Dinistriodd y gwinwydd â chenllysg,
a'r coed sycamorwydd â rhew.
48Trawodd y cenllysg eu gwartheg,
a'r mellt eu preiddiau.
49Dangosodd ei fod yn ddig gyda nhw,
yn wyllt gynddeiriog! Tarodd nhw â thrybini,
ac anfon criw o angylion dinistriol
50i agor llwybr i'w lid.
Wnaeth e ddim arbed eu bywydau,
ond anfon haint i'w dinistrio nhw.
51Trawodd y mab hynaf ym mhob teulu yn yr Aifft,
ffrwyth cyntaf eu cyfathrach ym mhebyll Cham.
52Yna aeth â'i bobl allan fel defaid,
a'u harwain fel praidd yn yr anialwch.
53Arweiniodd nhw'n saff a heb ofn;
ond cafodd y gelynion eu llyncu yn y môr.
54Yna daeth â nhw i'w dir cysegredig,
i'r mynydd oedd wedi ei gymryd trwy rym.
55Gyrrodd allan genhedloedd o'u blaenau,
a rhannu'r tir rhyngddyn nhw;
gwnaeth i lwythau Israel setlo yn eu lle.
56Ond dyma nhw'n rhoi'r Duw Goruchaf ar brawf eto!
Gwrthryfela yn ei erbyn,
a pheidio gwneud beth oedd yn ei ofyn.
57Dyma nhw'n troi eu cefnau arno,
a bod yn anffyddlon fel eu hynafiaid;
roedden nhw fel bwa llac – yn dda i ddim!
58Roedd eu hallorau paganaidd yn ei ddigio;
a'u delwau metel yn ei wneud yn eiddigeddus.
59Clywodd Duw nhw wrthi, ac roedd yn gynddeiriog;
a gwrthododd Israel yn llwyr.
60Trodd gefn ar ei dabernacl yn Seilo,
sef y babell lle roedd yn byw gyda'i bobl.
61Gadawodd i'w Arch gael ei dal;
rhoddodd ei ysblander yn nwylo'r gelyn! c
62Gadawodd i'w bobl gael eu lladd gan y cleddyf;
roedd wedi gwylltio gyda'i etifeddiaeth.
63Daeth tân i ddinistrio'r dynion ifanc,
ac roedd merched ifanc yn marw cyn priodi.
64Trawodd y cleddyf eu hoffeiriaid i lawr,
a doedd dim amser i'r gweddwon alaru.
65Ond yna dyma'r Meistr yn deffro!
Roedd fel milwr gwallgo wedi cael gormod o win.
66Gyrrodd ei elynion yn eu holau
a chodi cywilydd arnyn nhw am byth.
67Ond yna gadawodd dir Joseff;
a pheidio dewis llwyth Effraim.
68Dewisodd lwyth Jwda,
a Mynydd Seion mae mor hoff ohono.
69Cododd ei deml yn uchel fel y nefoedd,
ac yn ddiogel fel y ddaear, sydd wedi ei sefydlu am byth.
70Dewisodd Dafydd, ei was, d
a'i gymryd oddi wrth y corlannau;
71o fod yn gofalu am y defaid
i ofalu am ei bobl Jacob,
sef Israel, ei etifeddiaeth.
72Gofalodd amdanyn nhw gydag ymroddiad llwyr;
a'u harwain mor fedrus.
Copyright information for CYM